Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Mai
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4289
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5, 6 ac 8 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 6 chwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.40
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Dechreuodd yr eitem am 14.59
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad i ddathlu nyrsys yn agos at Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar 12 Mai.
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad ar Gerddwyr Cymru a Thaith Gerdded Fawr Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 15.03
NDM6288
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Steffan Lewis (Dwyrain De
Cymru)
Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd)
Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.
3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6303 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd.
2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
4 |
11 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6302 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.
2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai'n peryglu dyfodol economi Cymru.
3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a'r DU yn cael ei beryglu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
1 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi y byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad.
2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.
3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.
4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.
5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.
6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau wedi'u prisio ar gyfer:
a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;
b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;
c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;
d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;
e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;
f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
22 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6302 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad.
2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.
3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.
4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.
5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.
6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau wedi'u prisio ar gyfer:
a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;
b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;
c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;
d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;
e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;
f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM6300 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ailadeiladu bywydau drwy chwaraeon cymunedol
Daeth y cyfarfod i ben am 17.50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mai 2017